Rhif y ddeiseb: P-06-1306

Teitl y ddeiseb: Mwy o ddiogelwch i goed hynafol a hynod yng Nghymru. Gall hen goed gael eu symud. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed

Testun y ddeiseb: Mae cyfreithiau cwympo coed o’r 1960au wedi dyddio erbyn hyn. Mae'r polisi cynllunio presennol yn caniatáu ar gyfer torri coed hynafol a hynod (veteran) i lawr.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio polisi cynllunio mewn perthynas â Gorchmynion Diogelu Coed. Mae angen mwy o ddiogelwch ar eu cyfer, mae'r cyfreithiau'n llawer rhy llac.

Mae polisïau cynllunio ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach ac ar raddfa fawr yn caniatáu i ddatblygwyr eiddo/perchnogion tir wneud cais am Drwydded Cwympo Coed drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.

Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed hynafol a hynod.

Gwybodaeth ychwanegol: Fideos ar sut i symud coeden heb ei thorri i lawr: -

“How to Transplant and Move Large Trees Featuring an Air Tool”:
https://youtu.be/rMIbv6cdAsk

“Tree Moving Machine”:
https://youtu.be/9TtzQtVga7Y

“What does it cost to move a Large Tree”:
https://www.greerbros.com/greerblog/cost-to-move-a-large-tree

Pam caniatáu i goeden hynafol neu hynod gael ei thorri? Mae'n syml, yn lle ei thorri, symudwch y goeden. Felly, dylai polisi cynllunio gael ei ddiwygio fel a ganlyn: “Dim torri coed hynafol / hynod, rhaid i bob datblygwr ddadwreiddio a symud y coed i leoliad agos iawn”. Byddai hyn, yn ei dro, nid yn unig yn achub y coed ond hefyd yn creu swyddi ledled Cymru.

Achubwch goed hynafol a hynod. Rhaid rhoi’r gorau i dorri coed i lawr!

 


1.        Cefndir

Mae Coed Cadw yn disgrifio coed hynafol a choed hynod fel a ganlyn:

A veteran is a mature tree that has developed valuable decaying wood features, not necessarily as a consequence of time, but due to its life or environment. Veteran trees may not be very old, but share similarities with ancient trees, such as trunk or branch hollowing, or significant amounts of other decaying wood.

An ancient tree is one that has passed beyond maturity into an ancient life stage, or is old in comparison with other trees of the same species. The typical lifespans of trees differ according to species; for example, birches tend to live shorter lives than oaks. As a result, the age at which different species reach ancientness can also vary by a few hundred years.

Yn ei Strategaeth Coetiroedd i Gymru, mae Llywodraeth Cymru yn nodi:

Mae coed hynafol yn adnodd diwylliannol sy’n cysylltu pobl â lle, amgylchedd a diwylliant (y gorffennol a’r presennol), ac sydd hefyd yn darparu cynefin di-dor i rai mathau o gen, mwsoglau a ffyngau sy’n prinhau mewn tirweddau gwledig a threfol fel ei gilydd. Yn rhy aml o lawer mae coed hynafol, a ddisgrifir weithiau fel henebion gwyrdd, yn cael eu hystyried yn broblem yn hytrach nag ased, ac ni ofelir amdanynt yn iawn. Gall mwy o wybodaeth am eu lleoliad a’u statws ein helpu i sicrhau y caiff y coed hyn eu diogelu a’u rheoli’n effeithiol.

Mae’r strategaeth yn ymrwymo i wella’r drefn o ran amddiffyn a rheoli coed hynafol a choed hynod.

Mae polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Polisi Cynllunio Cymru , yn gosod fframwaith ar gyfer diogelu coed, coetiroedd a gwrychoedd. Yn ôl paragraff 6.4.26:

Mae coetiroedd hynafol a choetiroedd lled-naturiol a choed hynafol, aeddfed a threftadaeth unigol yn adnoddau naturiol na ellir mo’u hadfer, ac maent yn werthfawr o ran tirwedd, bioamrywiaeth a diwylliant. Dylai coed a choetiroedd o’r fath gael eu gwarchod rhag datblygiad a fyddai’n arwain at eu colli neu eu dirywio oni bai bod buddiannau cyhoeddus arwyddocaol a chlir o wneud hynny; dylai’r mesurau gwarchod hyn atal gweithrediadau a allai achosi difrod a cholled diangen…

Yn ôl paragraff 6.4.25:

…Ni ddylid caniatáu cael gwared ar goetir yn barhaol oni byddai hynny’n sicrhau buddiannau cyhoeddus arwyddocaol a chlir. Lle ceir gwared ar goetir neu goed fel rhan o gynllun arfaethedig, bydd disgwyl i ddatblygwr blannu coed yn eu lle.

Gorchymyn gan Awdurdod Cynllunio Lleol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yw Gorchymyn Cadw Coed, sydd yn gyffredinol yn ei gwneud yn drosedd torri, brigdocio, blingo neu ddadwreiddio coeden, neu ei difrodi neu ei dinistrio yn fwriadol heb ganiatâd.

Fel y nodwyd yn y llythyr a anfonwyd atoch gan Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, caiff y drefn o ran torri coed ei rheoleiddio drwy Ddeddf Coedwigaeth 1967. Pan fydd perchennog am gwympo coed sy'n tyfu, mae’n ofynnol iddo gael trwydded cwympo coed. Ceir rhai eithriadau pan nad oes angen trwydded, gan gynnwys pan fo’r goeden yn beryglus a phan fo angen torri coed fel rhan o ddatblygiad sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio. Mae angen trwydded cwympo coed hefyd os bydd rhywun am gwympo coed sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (oni bai bod eithriad, er enghraifft os rhoddwyd caniatâd cynllunio eisoes).

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am brosesu a rheoleiddio trwyddedau cwympo coed.

2.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae llythyr y Gweinidog yn nodi’r polisi cynllunio sy'n berthnasol i goed hynafol a choed hynod, fel y disgrifir uchod, ac mae'n rhoi rhagor o fanylion.

Mae llythyr y Gweinidog hefyd yn cydnabod “bod angen dipyn o sylw ar y ddeddfwriaeth” o ran Gorchmynion Cadw Coed, er ei bod yn effeithiol.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gomisiwn y Gyfraith adolygu cyfraith cynllunio Cymru, gyda'r nod o'i symleiddio a'i chydgrynhoi. Cyhoeddwyd argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn 2018. Roedd rhai o'r argymhellion yn ymwneud â'r drefn o ran Gorchmynion Cadw Coed. Gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn y rhan fwyaf o’r argymhellion a dywedodd yn 2020 y byddai newidiadau'n cael eu gwneud drwy fil cydgrynhoi ym maes cynllunio. Mae disgwyl i'r Bil gael ei gyflwyno yn nhymor y Senedd hon. Mae llythyr y Gweinidog yn dweud y bydd y rhan fwyaf o'r argymhellion yn cael sylw drwy'r rheoliadau cysylltiedig.

Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt wedi’u cynnwys ar dudalennau 51 i 55 o'r tabl hwn: Ymateb manwl Llywodraeth Cymru i adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar gyfraith cynllunio yng Nghymru .

Ar ddiwedd ei llythyr, mae’r Gweinidog yn nodi: “Nid yw diwygio'r fframwaith fel y nodir yn y Ddeiseb o reidrwydd yn mynd i gyflawni'r gwelliannau a geisir”. Mae'n dweud y bydd rhaglen Llywodraeth Cymru o barhau i adolgyu Polisi Cynllunio Cymru a diwygiadau i’r drefn Gorchmynion Cadw Coed yn y dyfodol a ddaw drwy'r Bil cydgrynhoi cynllunio a rheoliadau cysylltiedig “yn cryfhau'r system ac yn rhoi'r amddiffyniad i goed a geisir gan y Deisebydd”.

3.     Y camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Y cam mwyaf diweddaraf gan y Senedd yn y maes hwn oedd gwaith Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn ystyried Cyfnod 1 y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Er bod y Bil yn canolbwyntio'n bennaf ar faterion amaethyddol, mae hefyd yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gwneud trwyddedau cwympo coed yn fwy hyblyg.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn gofyn pam nad oedd materion eraill sy’n ymwneud â choetiroedd wedi eu cynnwys yn y Bil, er enghraifft gwella’r amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol a choed hynod.

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad Cyfnod 1 ar 27 Ionawr 2023. Mae'n argymell y dylai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, nodi sut y bydd yn mynd i'r afael â’r materion o ran rheoli coetiroedd a godwyd yn ystod gwaith craffu Cyfnod 1, gan gynnwys gwella’r amddiffyniadau ar gyfer coetiroedd hynafol a choed hynod.

Mae disgwyl i'r Gweinidog ymateb o fewn chwe wythnos i gyhoeddi'r adroddiad ac mae disgwyl i'r Senedd drafod egwyddorion cyffredinol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru) ar 7 Chwefror 2023.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.